Llun: PA
Mae dau sefydliad wedi mynegi pryder am ddiffyg cynrychiolaeth menywod ar gynghorau Cymru yn dilyn yr etholiadau lleol.

Yn ôl elusen Chwarae Teg a’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS Cymru) dim ond 359 o’r  1,254 cynghorydd newydd yng Nghymru sydd yn fenywod.

Bellach mae 27% o gynghorwyr yng Nghymru yn fenywod, sydd yn gynnydd o’r 26% yn dilyn etholiad 2012 ond sy’n welliant annigonol, yn ôl yr elusennau.

Yn Ynys Môn y ceir cynrychiolaeth menywod ar ei isaf (10%) ac yng Ngheredigion a Blaenau Gwent 12% yn unig o gynghorwyr sydd yn fenywod.

Mae cynrychiolaeth menywod ar ei orau yng nghynghorau  Abertawe a Rhondda Cynon Taf lle mae tua 41% o gynghorwyr yn fenywod.

 “Chwerthinllyd”

“Mae’r ffigurau yma yn dangos bod pleidiau gwleidyddol heb gymryd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn awdurdodau lleol o ddifrif,” meddai Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong.

“Dw i’n teimlo bod hi’n chwerthinllyd bod cyn lleied o welliant wedi bod ar y mater yma, a’n bod yn caniatáu’r status quo i barhau yn yr unfed ganrif ar hugain. Status quo lle mae llais menywod yn absennol o’r broses gwneud penderfyniadau yn ein cynghorau.”

“Ergyd morthwyl”

“Mae’r canlyniadau yma yn cadarnhau ein gofidion bod cynghorau ar hyd a lled Cymru yn mynd i gael eu dominyddu unwaith eto gan ddynion am y pum mlynedd nesaf,” meddai Cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair.

“Gyda phrin chwarter o gynghorwyr yn fenywod, ni fydd yr ystod gyfan o dalentau a phrofiadau sydd gennym ni yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu yn ein cynghorau. Yn y pendraw ergyd morthwyl yw hyn i ddemocratiaeth leol.”