Elly Neville
Dydd Llun bydd merch fach saith oed yn dathlu dwy flynedd o godi degau o filoedd o bunnau i helpu cleifion sy’n cwffio canser.

Ers 2015 mae Elly Neville o Benfro wedi codi dros £83,500 i helpu cleifion Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro, lle bu ei thad yn glaf cyn goroesi canser.

Wedi iddo gael triniaeth yn 2005, fe ddywedodd y meddygon wrth Lyn Neville na fyddai yn gallu cael mwy o blant “oherwydd bod y driniaeth mor arw”.

“Ond bedair blynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth Elly i’r fei – roedd yn dipyn o sioc,” meddai Lyn Neville sy’n 54 oed ac yn dal i ryfeddu at sut mae ymdrechion codi arian ei ferch wedi tyfu fel caseg eira.

Yn bump oed fe enillodd Elly Neville gystadleuaeth creu baner ar gyfer dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant yn Ysgol Gynradd Gymunedol Penfro.

Fe benderfynodd ei rhieni roi’r faner yn wobr i’w rafflo er mwyn codi “tua £50” at Ward 10 Ysbyty Llwyn Helyg.

Fe gawson nhw gyngor i gychwyn tudalen ‘just giving’ ar y We a gosod targed o godi £500.

“Roedden ni yn meddwl bod y targed hwnnw yn chwerthinllyd a bod dim posib codi’r ffasiwn arian,” cofia Lyn Neville, “ond mae’r gronfa wedi tyfu a thyfu.”

Wrth i hanes baner ac ymdrechion Elly Neville gael sylw’r Wasg a’r cyfryngau, mae’r nifer sy’n rhoi arian wedi cynyddu.

Bellach mae £83,500 wedi ei gyfrannu i’r achos, ac Elly Neville wedi cael tynnu ei llun gyda’r baner Gŵyl Dewi mewn sawl papur newydd wrth iddi gyfarfod pobol enwog fel yr actor Jerome Flynn a gwleidyddion megis Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Vaughan Gething yr Ysgrifennydd Iechyd.

“Mae o i gyd yn codi proffil Ward 10 yn Ysbyty Llwynhelyg, lle mae’r cleifion canser yn cael eu trin,” eglura Lyn Neville.

Hyd yma mae’r arian wedi ei wario ar beiriant sy’n codi cleifion gwan a’u cludo i’r tŷ bach.

“Mae’r arian rydan ni yn ei godi ar gyfer cleifion, gofalwyr ac aelodau’r teulu, ac i’w wario ar beth bynnag sy’n gwneud bywyd yn haws yn yr ysbyty,” meddai Lyn Neville.