Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng car a beic modur ar ôl i ddyn 23 oed gael ei ladd ger Aberfan ddydd Sadwrn.
Roedd y cerbydau mewn gwrthdrawiad ger Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen am oddeutu 4.52pm.
Mae dyn 24 oed yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd am anafiadau difrifol.
Roedd y ffordd ynghau wrth i’r ymchwiliad ddechrau.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.