Arthur Ray Taylor (Llun: PA)
Mae’r chwilio am ddyn 90 oed yng Ngheredigion wedi cael ei gwtogi, yn ôl Gwylwyr y Glannau.

Aeth Arthur Ray Taylor, sy’n cael ei adnabod wrth yr enw Archie, ar goll ar ôl bod yn ei gwch ger Gwbert.

Fe fu Gwylwyr y Glannau a’r gwasanaethau brys yn chwilio amdano ar ôl iddyn nhw dderbyn galwad brynhawn ddoe.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y chwilio wedi dod i ben am y tro, ac y byddai eu hymdrechion yn ail-ddechrau heno am 6 o’r gloch.

Apêl

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod Arthur Ray Taylor yn 5’4″, o gorffolaeth denau a chanddo wallt llwyd.

Roedd e’n gwisgo siwmper las a siaced lwyd tywyll.

Dylai unrhyw un sy’n ei weld e gysylltu â’r heddlu ar 101.