Mae adroddiadau fod hen blasty ar fin y briffordd rhwng Bangor a Chaernarfon ar dân.

Mae traffig rhwng Y Felinheli a Chaernarfon yn cael ei ddargyfeirio heibio pentre’ Bethel y bore yma, wrth i’r A487 cael ei chau.

Mae tagfa hir yn ymestyn rhwng Caernarfon a thros ffordd osgoi Y Felinheli, wedi i Wasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru gau y ffordd i mewn i dre’ Caernarfon.

Dyw hi ddim yn ymddangos fod y tân yn un difrifol, gan ei fod wedi’i gyfyngu i un rhan o’r ty sydd wedi bod yn wag ers rhai blynyddoedd.