Joseph Smith o Laneirwg, Caerdydd Llun: Heddlu De Cymru
Mae dyn wedi’i gael yn euog o achosi marwolaeth ei lysfab pump oed ac o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.

Roedd Dean Collins, 23, o Laneirwg yng Nghaerdydd wedi gwadu achosi marwolaeth Joseph Smith, 5 oed, drwy yrru ei gar Ford Focus yn beryglus.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Rhodfa’r Gorllewin ar yr A48 ar 13 Medi, 2015.

Clywodd y llys bod Dean Collins wedi bod  yn gyrru fel “ffŵl” a’i fod wedi’i weld yn dal ffôn symudol cyn y gwrthdrawiad. Roedd hefyd wedi cymryd cocên.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw cafwyd Dean Collins yn euog o’r pum cyhuddiad yn ei erbyn.

Roedd Dean Collins hefyd wedi gwadu achosi anafiadau difrifol i’w bartner Laura Bright, a’i mam Michelle Holmes a oedd yn teithio yn y car gydag ef.

Roedd hefyd wedi pledio’n ddieuog o achosi anafiadau difrifol i Shane a Joanne Strevins a oedd yn teithio i’r cyfeiriad arall mewn car Seat Ibiza, a gafodd ei daro gan gar Dean Collins.

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yfory ac mae’r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn wynebu cyfnod yn y carchar.