Mark Reckless (Llun o'i gyfrif Twitter)
Mae’r Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, Nick Ramsay yn cyfaddef ei fod yn teimlo’n “ansicr” yn dilyn penderfyniad Mark Reckless i adael UKIP a pharhau’n Aelod Seneddol Ceidwadol.
Mae rheolau’n dweud mai dim ond aelodau plaid all fod yn rhan o grŵp yn y Cynulliad.
Ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales heddiw, dywedodd Nick Ramsay: “Ydw i’n aelod o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig neu ydw i’n aelod o ryw fath o grŵp annibynnol hybrid?”
Daeth Mark Reckless yn Aelod Cynulliad dros Dde Ddwyrain Cymru yn 2016 ar ôl bod yn Aelod Seneddol y blaid yn Rochester a Stroud.
Fe adawodd UKIP ddydd Iau, gan ail-ymuno â’r Ceidwadwyr.
Ond yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ni fu unrhyw newid i’r Cyfansoddiad.
‘Angen eglurder’
Mae Nick Ramsay wedi galw am eglurder ynghylch y sefyllfa.
Dywedodd wrth Radio Wales: “Mae wedi codi cynifer o gwestiynau ag y mae wedi eu hateb ac o’m safbwynt i, dw i’n meddwl bod angen eglurder arnon ni yn hyn o beth oherwydd dw i’n meddwl y bydd dryswch yn codi fel arall.
“Bellach mae gyda ni aelod yn y grŵp Ceidwadol nad yw’n aelod o’r blaid – nawr, dyna i chi sefyllfa ryfedd.”
Cyfansoddiad
Er bod Andrew RT Davies yn gwadu bod y Cyfansoddiad wedi cael ei newid, mae Nick Ramsay yn amau hynny gan ddweud y byddai’n “rhaid ei atal dros dro mewn rhyw ffordd”.
Dywedodd na fyddai swyddfa Ysgrifennydd Cymru’n barod i gyfarfod â’r grŵp yn y Cynulliad pe bai Mark Reckless yn cael aros.