Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddynes gael ei lladd ar draffordd yr M4 yng nghyrion Caerdydd neithiwr.

Mae’n ymddangos fod y ddynes 66 oed yn rhedeg ar ôl ei chi pan gafodd ei tharo gan fan Ford Transit tua 6.15.

Cred yr heddlu y gallai’r ci fod wedi neidio allan o’r car Volkswagen Golf gwyn yr oedd y ddynes yn ei gyrru.

Fe fu’r draffordd tua’r gorllewin rhwng cyffyrdd 30 a 32 ar gau am bum awr wedi’r digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y ci ar y ffordd ychydig ynghynt. Gall unrhyw un â gwybodaeth o’r fath eu ffonio ar 101 gan nodi cyfeirnod 1700131315.