(Llun: Cyngor Ceredigion)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun sy’n galluogi milwyr a chyn-filwyr i nofio am ddim yn derbyn £75,000.

Mae’r Cynllun Nofio am Ddim i’r Lluoedd Arfog yn galluogi aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr i fynd i nofio’n ddi-dâl mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio penodol.

Bydd cyllid ar gael i redeg y cynllun am flwyddyn rhwng 2017 a 2018.

Dechreuodd y gwaith ar y cynllun cenedlaethol o fis Tachwedd 2015 ac erbyn 2016, roedd gan y 22 Awdurdod Lleol gynllun yn ei le.

‘Manteision niferus’

“Y gobaith yw bod hyd yn oed rhagor o bobl yn cymryd rhan yn y cynllun y flwyddyn hon, gan elwa ar y manteision niferus a llesol sy’n cael eu cynnig gan weithgarwch corfforol,” meddai Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Llywodraeth Leol Cymru, Chris Llewelyn.

“Mae pyllau nofio sy’n rhan o’r cynllun ar gael gan bob un o awdurdodau lleol Cymru. Ewch ar wefan eich Awdurdod Lleol i weld lle mae’r pwll nofio agosaf i chi.”