Mark Serwotka (llun yr undeb)
Fe fydd canolfan drwyddedu’r DVLA yn Abertawe yn un o ganolfannau protestiadau gan weision sifil yn erbyn cyfyngiadau cyflog.

Fe fydd protestiadau fory hefyd y tu allan i swyddfeydd trethi a’r Trysorlys yn Llundain wrth i undeb y Gwasanaeth Cyhoeddus a Masnachol (y CPS) gwyno am gyfyngiad o 1% ar godiadau cyflog i weision sifil.

Maen nhw’n honni bod cyflogau gweision sifil wedi syrthio rhwng £2,000 a £3,500 o ran eu gwerth gwirioneddol yn ystod y chwe blynedd diwetha’.

‘Toriadau’

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd y nenfwd o 1% yn parhau tan 2020 ond mae hynny, meddai’r undeb, yn mynd yn groes i addewid y Prif Weinidog, Theresa May, i helpu teuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.

“Mae gweision sifil ymroddedig yn wynebu tair blynedd arall o doriadau cyflog,” meddai Ysgrifennydd yr undeb, y Cymro Mark Serwotka.

“Mae Theresa May yn addo helpu teuluoedd sy’n ‘crafu trwyddi’ ac mae ganddi’r cyfle i ddechrau gyda staff ei Llywodraeth ei hun sy’n methu cael dau pen llinyn  ynghyd.”