Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi delio â 67 achos o danau gwair yn y de’r penwythnos hwn.

Ac maen nhw wedi cadarnhau fod rhai o’r rheiny wedi’u cynnau yn fwriadol wedi iddyn nhw dderbyn dros 300 o alwadau.

Roedd ardaloedd eang wedi llosgi ar fynyddoedd Penrhys yn Rhondda Cynon Taf gan gynnwys ardaloedd ym Maesteg, Treorci yn ogystal â Mynydd y Rhiw Pen Llŷn a Llandysilio-yn-lâl, Sir Ddinbych.

Mae’r ffigurau’n llawer uwch na’r adeg hyn llynedd pan gafwyd 8 achos yn y de dros yr un penwythnos yn 2016, ac mae rhai yn dweud fod y tywydd teg a’r gwyntoedd dros y penwythnos wedi cryfhau’r tanau.