Mia Elliot (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth wrth iddyn nhw chwilio am ferch ysgol 11 oed sydd ar goll o’i chartref.
Nid yw Mia Elliot o Landdulas ger Bae Colwyn wedi cael ei gweld ers 8yh nos Lun, 20 Mawrth a 7.30yb ddydd Mawrth, 21 Mawrth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams eu bod yn “gynyddol bryderus” am Mia Elliot a’u bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a allai fod wedi ei gweld neu yn gwybod lle mae hi.
Mae hi’n 5’5 troedfedd o daldra, o faint tenau gyda llygaid brown tywyll a gwallt du at ei hysgwyddau.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth roedd hi’n ei wisgo ar y pryd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod V039266.