Ddiwrnod yn unig cyn i’r blaid gwrdd yng Nghaerdydd ar gyfer fforwm wanwyn, mae’r Ceidwadwyr wedi cael dirwy o £70,000 am “nifer o fethiannau” i adrodd ei chostau yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Mae methiant y Torïaid i gofnodi ei chostau llawn yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015 yn golygu bod hi’n bosib ei bod wedi cael “mantais ariannol” yn erbyn ymgeiswyr eraill, yn ôl y Comisiwn Etholiadol.

Roedd hefyd wedi methu cofnodi costau ar gyfer tri isetholiad yn 2014 ac mae’r Comisiwn wedi cyfeirio cyn Trysorydd y blaid at yr heddlu.

Mae o leiaf tri Aelod Seneddol y blaid wedi cael eu holi gan yr heddlu hefyd.

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, Syr John Holmes, fod y sgandal wedi “tanseilio ffydd etholwyr mewn prosesau democrataidd.”

Theresa May yng Nghaerdydd

Bydd prif ffigurau’r blaid, gan gynnwys y Prif Weinidog, Theresa May, yn dod i Gaerdydd fory ar gyfer cynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Mae’r Ceidwadwyr wedi derbyn y ddirwy ond cafodd ei honiad ei bod wedi cydymffurfio’n llawn â’r ymchwiliad ei gwestiynu gan y Comisiwn, gan iddo orfod mynd i’r llys i gael gwybodaeth benodol o’r blaid.

Mae’r canfyddiad yn dod wrth i’r Torïaid ddod dan bwysau ar eu tro bedol ar gynnydd mewn Yswiriant Gwladol i bobol hunangyflogedig, galwadau Llywodraeth yr Alban am ail refferendwm annibyniaeth ac wrth i Theresa May baratoi i danio Erthygl 50 erbyn diwedd y mis.