Parc eco Orthios (Llun: www,orthios,com)
Mae cwmni o Ynys Môn sy’n arbenigo mewn egni adnewyddadwy wedi cyhoeddi eu bod am ehangu eu safle gan greu 500 o swyddi newydd dros bum mlynedd.
Bydd Orthios Echo Parks yn ehangu eu maes 213 acer ar hen safle Alwminiwm Môn ger Caergybi er mwyn datblygu technoleg newydd fydd yn trin defnydd organig, ynni gwynt a gwastraff.
Bydd yr egni fydd yn cael ei gynhyrchu gan y safle yn cyfrannu pŵer at y Grid Cenedlaethol ac yn darparu trydan i 650,000 o gartrefi lleol.
Hefyd mi fydd y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethu ac mae’r cwmni yn gobeithio tyfu ffrwythau a llysiau, yn ogystal â ffermio corgimwch.
“Mae enw da gan ogledd Cymru o ran prosiectau egni mawr, ac mae’n bartner perffaith i gwmnïau o’r fath,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wrth iddo ymweld â’r safle.
“Mae egni adnewyddadwy yn hanfodol i Gymru wrth i ni symud tuag at ddyfodol carbon isel, ac mae safle Orthios yn dipyn o beth… Nid oes modd tan werthfawrogi eu heffaith ar yr economi leol.”