Llŷr Gruffydd
Mae Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru wedi galw am ailwampio’r drefn gynllunio oherwydd bod pryderon am ganiatáu codi gormod o dai ledled y gogledd ddwyrain, gyda 12,000 o dai newydd i fod yn nhref Wrecsam.

Yn ôl Llŷr Gruffydd mae Llywodraeth Cymru ar fai.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwysau mawr ar gynghorau lleol drwy fynnu fod rhaid cael digon o dai ar gyfer y cynnydd poblogaeth y maen nhw’n rhagweld.”

Yn ôl Llŷr Gruffydd mae cynghorau sir wedi newid eu cynlluniau oherwydd pwysau gan Lywodraeth Cymru.

“Oherwydd hyn, bu’n rhaid i gynghorau Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych ail-ystyried eu Cynlluniau Datblygu Lleol a chynyddu’r nifer o dai yn sylweddol. Mae hyn er bod y cynghorau wedi trin a thrafod y cynlluniau dros flynyddoedd ac wedi ymgynghori’n eang ar y mater yn lleol.”

Mae Llŷr Gruffydd yn galw am ailwampio’r holl drefn gynllunio.

“Mae’n glir nad yw pobol leol am weld stadau tai enfawr yn cael eu codi ar gaeau gleision. Yn achos Wrecsam, byddai’r clwb rygbi lleol a chaeau chwarae Ysgol Morgan Llwyd yn diflannu dan stad o 1,500 o dai yn ôl y cynllun diweddaraf. Mae hynny’n gwbl annerbyniol ac mae angen i Lywodraeth Cymru ail-feddwl yr holl drefn gynllunio er mwyn i gymunedau lleol fedru tyfu’n organig yn hytrach nac ar hap a dymuniad datblygwyr mawr.”