Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yng Nghasnewydd, bu golwg360 yn holi rhai o aelodau a chynghorwyr am ambell i bwnc llosg.
Wrth gael ei holi ar y ddadl fewnol ym Mhlaid Cymru ar symud S4C i Gaerfyrddin, gyda aelodau etholedig y gogledd yn galw am adleoli i Gaernarfon, dywedodd Nick Yeo o Gaerdydd ei bod yn “sefyllfa anodd”.
“Yn amlwg byddai’n dod â llawer o swyddi da i’r ddwy ardal, mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn y ddwy ardal, felly mae’n gwneud synnwyr i [S4C] fod yn y ddwy ardal,” meddai.
“Dw i ddim yn meddwl ei fod yn niweidiol [i Blaid Cymru], dw i jyst yn meddwl bod angen trafodaeth amdano i’r holl aelodau i weithio mas y ffordd orau o symud gyda’n gilydd fel plaid achos dydyn ni ddim eisiau cael rhaniadau.
Ac ar y compact â’r Blaid Lafur yn y Senedd, sy’n golygu bod Plaid Cymru yn cydweithio gyda’r llywodraeth ar rai polisïau, dywedodd fod hi’n well bod y Blaid yn “canolbwyntio ar wella Cymru yn hytrach na gwrthdaro.”
“Os yw’r compact yn gwneud newidiadau positif, yna pam lai? Y syniad mewn llywodraeth yw rheoli i greu newid, os gallan nhw wneud hynny gyda Llafur, dw i’n meddwl bod pleidiau sy’n gweithio gyda’i gilydd ddim yn beth gwael. Mae’n neis gweld mwy ohono weithiau.”
Sir Gâr – penderfyniad S4C “wedi’i wneud”
Wrth siarad â Cefin Campbell, cynghorydd sir yn Sir Gaerfyrddin, mynnodd nad oedd y ddadl fewnol ar symud S4C yn niweidiol.
“Lle Aelodau Cynulliad yw ymladd dros eu haelodau a’u hardal ond mor bell a dw i yn y cwestiwn, mae’r ddadl drosodd erbyn hyn,” meddai.
“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud, mae arian yn dod i’r Egin a gobeithio bydd pawb dros Gymru gyfan yn cefnogi ymdrechion Coleg y Drindod Dewi Sant a’r Egin a’r cwmnïau fydd yn datblygu o gwmpas yr Egin i sicrhau bydd ‘na swyddi a chyfraniad ieithyddol ac economaidd cadarn yn cael ei wneud yn y de-orllewin.
“Dw i ddim yn credu bod dadl fewnol fawr wedi bob o gwbl i ddweud y gwir, mae Plaid Cymru’n gytûn bod angen symud mwy o swyddi allan o Gaerdydd i’r gorllewin ac i’r gogledd.
“Digwydd bod mae’r Egin yn dod i Gaerfyrddin ac mi fyswn i’n gefnogol dros ben i weld rhai o brif swyddfeydd a phencadlysoedd cwmnïau sydd ar hyn o bryd yng Nghaerdydd yn cael eu trosglwyddo i Gaernarfon.”
Wrth gael ei holi ar y cydweithio â Llafur yn y Cynulliad, er bod ‘na ddadlau tanbaid wedi bod yn Sir Gaerfyrddin rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur dros addysg Gymraeg yn y sir, dywedodd fod “cydweithio’n digwydd yn y Senedd” ond fod hynny ddim yn ymestyn ar Sir Gâr.
“Pwrpas Plaid Cymru yw ymladd dros annibyniaeth i Gymru, sicrhau bod y mater yna ar yr agenda ond wrth gwrs mae yna sawl cam i fynd hyd at y pwynt yna.
“Mae ymladd dros fwy o bwerau i’r Senedd yng Nghaerdydd yn flaenoriaeth dros y tymor byr a dw i ddim yn credu bod y Blaid Lafur am roi’r un ffocws ag y mae Plaid Cymru’n mynd i roi ar ennill mwy o bwerau i Gymru.
“Ar fater addysg Gymraeg, mae’n siom enfawr i fi fel cynghorydd yn Sir Gaerfyrddin bod trwch aelodau Llafur ar Sir Gaerfyrddin wedi gwrthwynebu polisi Llywodraeth eu hunain a gwrthwynebu polisi y gwnaethon nhw gefnogi’n llawn ryw dair blynedd yn ôl.
“Mae ‘na gydweithio ymarferol yn digwydd yn y Senedd wrth gwrs ond yn Sir Gaerfyrddin, Plaid Cymru gyda chefnogaeth grŵp annibynnol sy’n arwain a Llafur yw’r wrthblaid, felly dyna’r berthynas ar hyn o bryd.”
“Ddim yn ateb ie neu na”
Dywedodd Colin Mann, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Caerffili, fod yr ateb cywir dros gydweithio â Llafur “ddim yn syml.”
“Dyw e ddim yn ateb ie neu na, gallwch chi ddadlau dros y ddau gyfeiriad. Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu cael ein polisïau trwy’r [Llywodraeth] yn beth da, [ond] mae’r ffaith ein bod ni’n cael ein gweld fel y Blaid Lafur, ddim mor dda,” meddai.
“Ond mae’n beth anodd i’r cyhoedd ddeall, ac mae’n anodd hefyd i lot o aelodau Plaid Cymru i ddeall.
“Felly dw i’n meddwl, beth bynnag fyddwn ni’n gwneud, byddwn ni’n cael ein beirniadu. Gallaf weld y manteision a gallaf weld hefyd yr anfanteision. Felly does dim ateb syml.”