Andrew RT Davies
Mae Arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi gosod her i arweinwyr y pleidiau eraill, gan alw arnyn nhw i uno i sicrhau llwyddiant i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Andrew RT Davies yn ymgyrchydd brwd o blaid Brexit yn ystod y refferendwm ym mis Mehefin y llynedd, ac mae wedi beirniadu pleidiau eraill am fod yn rhy negyddol ynghylch y posibiliadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn ystod y refferendwm, yr oeddem yn clywed am yr ansicrwydd y byddai Brexit yn ei greu,” meddai.

“Ond mae’r negyddiaeth parhaus  ymhlith y sefydliad gwleidyddol yng Nghymru yn fwy o fygythiad i’n ffyniant yn y dyfodol.”

Wrth gydnabod fod Brexit wedi achosi rhaniadau, mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru bod cyfleon yn codi hefyd.

“Mae Brexit wedi bod yn bwnc sydd wedi rhannu pobl, ond i’r wlad i gyd, y mae’n gyfle heb os, i ail-fowldio’r economi, ac i ailddarganfod y gorau amdanom, yn greadigol ac yn ddiwydiannol.

“Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn benderfynol o wneud llwyddiant o Brexit, ac fe fydd hi’n gwneud ei gorau i ddiogelu’r undeb rhyngom ynghanol popeth y bydd y Llywodraeth yn ei wneud.”

Mae Andrew RT Davies yn feirniadol o agwedd Plaid Cymru a’r Blaid Lafur at Brexit.

“Y tristwch ydi fod y math o iaith sy’n cael ei ddefnyddio gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur yn gyfystyr ag ymgais i ddifrodi’r holl beth.”

“Anghyfrifol i ymdawelu” ar fater Brexit, meddai Rhun ap Iorwerth

Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi mynnu bod angen brwydro yn erbyn “Brexit called Farage a May”.

Wrth annerch cynhadledd y Blaid yng Nghasnewydd heddiw, dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai yn “foesol anghyfrifol” i roi’r gorau i gwestiynau termau Brexit.

“Doedd yna ddim cyd-destun Cymreig i’r refferendwm,” meddai Rhun ap Iorwerth. “Refferendwm Prydeinig oedd o, er gwaetha’n ymdrechion ni i rybuddio pobl Cymru am be oedd yn y fantol iddyn nhw.

“Rŵan? “Move on”, medda’r asgell dde. “Jysd derbyniwch y peth.” Derbyn bod y canlyniad fel ag yr oedd o. Ie. Gwrando ar y rhesymau pam…. Ond derbyn yn dawel Brexit caled Farage a May? Mi fydda’ hi yn foesol anghyfrifol i ymdawelu. Mae’n rhaid arwain y drafodaeth RŴAN efo pobl Cymru, fel bod pobl yn deall goblygiadau’r hyn sydd o’n blaenau ni.

“Mae’n rhyfeddol pa mor fuan y gwnaeth addewidion yr ymgyrch dros adael yr undeb Ewropeaidd ddechrau disgyn yn ddarnau. Y £350m yr wythnos i’r NHS er enghraifft – a’r cyfaddefiad yn syth ar ôl y bleidlais mwy neu lai, mai lol oedd hynny.

“Mae bron yn sicr fod y celwydd yna’n rhan mawr o’r rheswm dros y bleidlais i adael. Allwn ni ddim maddau’r celwydd yna, ac allwn ni ddim anghofio.”