Fe fydd cyfres o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr heddiw gydag adroddiadau y gallai 1,160 o swyddi gael eu colli erbyn 2021.
Daeth cadarnhad ym mis Medi fod buddsoddiad mewn prosiect injanau’n cael ei gwtogi’n sylweddol o £181m i £100m.
Mae swyddfa Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi mynegi “pryder” am y newyddion, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi addo gwerth £15m o gymorth pe bai 500 o swyddi’n cael eu diogelu.
Mae undeb Unite yn galw ar benaethiaid Ford i greu cynllun pum mlynedd ar gyfer y safle, ac maen nhw’n dweud bod streiciau’n debygol.
Mae’r safle’n creu 250,000 o injanau ar gyfer Jaguar Land Rover bob blwyddyn, a 500,000 o injanau Sigma, ond fe fydd y gwaith o gynhyrchu’r rhain yn dod i ben y flwyddyn nesaf.