Mae llythyr gan gynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yng Nghymru wedi cael ei anfon at Brif Weinidog Prydain yn San Steffan heddiw i gefnogi cynllun Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Mae’r llythyr yn galw ar Theresa May a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi adroddiad Charles Hendry ym mis Ionawr i sefydlu’r morlyn cyntaf o’i fath yn y byd yn Abertawe.

Mae’r cynllun yn ddibynnol ar sicrhau cymhorthdal gan Lywodraeth Prydain i alluogi’r cwmni ynni adnewyddadwy, Tidal Lagoon Power, i ddechrau ar y prosiect sy’n costio £1.3 biliwn.

‘Cymru ddeinamig’

Mae’r llythyr yn tynnu sylw at fanteision economaidd ac amgylcheddol i Gymru ynghyd â chreu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio a chreu mentrau hamdden a thwristiaeth.

“Mewn fflach, gall y prosiect ryddhau lefel o fuddsoddiad cyfalaf preifat nas gwelir yn aml yng Nghymru,” meddai’r llythyr.

“Ond yn bennaf oll, bydd yn cyfrannu’n helaeth at ddelwedd Cymru fel lleoliad sydd â gallu i ddychmygu a chyflwyno prosiectau cyffrous a thrawsnewidiol: Cymru ddeinamig yn edrych at y dyfodol.”

Cefnogaeth y pleidiau

Wrth gwt y llythyr mae mwy na 40 o wleidyddion wedi arwyddo’r llythyr gan gynnwys Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, Huw Irranca-Davies; Cadeirydd Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas;  Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Russell George a Chadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Mark Reckless.