Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi derbyn £3.5 miliwn gan y Loteri er mwyn bwrw ymlaen gyda’r gwaith o adfer tirlun a pharc dŵr o gyfnod y Rhaglywiaeth.

Yn ôl yr Ardd Fotaneg, hwn yw’r “datblygiad mwyaf” yn eu hanes, ac mae’n golygu bod modd dechrau ar y cyfnod adeiladu o’r prosiect sy’n werth £7.2 miliwn.

Hanes

Y teulu Middleton oedd yn berchen yr ystad ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, ac roedden nhw’n dibynnu ar arian roedden nhw’n ei ennill o werthu sbeisys, perlysiau a nwyddau eraill.

Cafodd yr ystad ei phrynu gan yr Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin, Syr William Paxton yn 1789 ac fe ddatblygodd y gerddi’n gyflym wedi hynny.

Samuel Lapidge oedd wedi cynllunio’r tirlun a’r gerddi, oedd yn cynnwys parc dŵr arloesol gyda dŵr yn llifo o gwmpas yr ystad drwy rwydwaith o argloddiau, llifddorau, pontydd a rhaeadrau.

Bydd yr arian sydd wedi’i roi i’r Ardd Fotaneg yn helpu i ail-greu’r parc dŵr hanesyddol hwn.

‘Diwrnod heb ei ail’

Dywedodd Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y Farwnes Kay Andrews y “bydd y prosiect cyffrous hwn yn cadarnhau’r Ardd Fotaneg ar ben rhestr ymweliadau angenrheidiol”.

“Bydd yn ddiwrnod allan heb ei ail i deuluoedd a phobl o bob oed ac yn gyrchfan hanfodol i bobl o’r tu allan i Gymru ac ymhellach hyd yn oed.”

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod “treftadaeth naturiol yn adnodd gwerthfawr”.

“Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr balch o’r Ardd Fotaneg ac rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn fydd yn help i ddarparu sgiliau newydd a hyfforddiant i wirfoddolwyr a phrentisiaid.”

‘Gwanwyn wedi gwawrio’

Wrth ymateb i’r buddsoddiad, dywedodd Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg, Huw Francis fod y “Gwanwyn yn sicr wedi gwawrio yma yn yr Ardd” a bod y cyhoeddiad yn “croesawu tymor newydd a phennod newydd yn ein hanes ar yr un pryd”.