Zoe Morgan a Lee Simmons
Mae dyn 21 oed wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei gyn-gariad a’i phartner tu allan i siop yng Nghaerdydd.

Bydd yn rhaid i Andrew Saunders dreulio isafswm o 23 mlynedd dan glo am lofruddio Zoe Morgan and Lee Simmons ym mis Medi’r llynedd.

Cafwyd hyd i Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmons, 33 oed, yn farw tu allan i siop Matalan lle’r oedden nhw’n gweithio ar Stryd y Frenhines, Caerdydd ar 28 Medi 2016.

Roedd Zoe Morgan wedi bod mewn perthynas gydag Andrew Saunders o fis Mehefin 2014 hyd at Orffennaf 2016 pan ddaeth hi â’r berthynas i ben.

Fe ddechreuodd berthynas newydd gyda Lee Simmons ym mis Gorffennaf 2016.

Clywodd y llys ddoe fod Andrew Saunders wedi ‘ymchwilio i ddulliau o ladd’ y ddau ar y we.

Ar ôl cael ei arestio, fe blediodd Andrew Saunders yn euog o ddau achos o lofruddiaeth mewn gwrandawiad cynharach.

Cafodd Andrew Saunders ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Caerdydd.

Teulu Zoe Morgan – ‘bywydau wedi newid am byth’

Mewn datganiad wedi’r ddedfryd, dywedodd teulu Zoe Morgan ei bod yn ferch “prydferth a galluog.”

“Mae ein bywydau wedi newid am byth ac ni fydd pethau byth yr un peth eto.

“Does dim ots pa mor hir bydd yr unigolyn creulon yma yn ei gael yn y carchar, ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i’r ddedfryd oes fydd gennym ni tan inni farw,” meddai’r datganiad.

Teulu Lee Simmons – ‘addfwyn a gofalus’

Dywedodd teulu Lee Simmons mewn datganiad: “ni fyddwn byth yn medru maddau iddo [Andrew Saunders] am gymryd Lee oddi wrthym mor hunanol, ond hoffem ddiolch i’w deulu am gydweithredu’n llawn gyda’r heddlu i gynorthwyo gyda’i arestio a’i euogfarn gyflym.”

“Roedd e’n ddyn ifanc addfwyn a gofalus… gallech chi ddim fod wedi dymuno cyfarfod â pherson mwy meddylgar a charedig.”

‘Cenfigen anaeddfed’

Fe wnaeth Ditectif Arolygydd Heddlu’r De, Mark O’Shea, ddiolch i’r cyhoedd am gydweithredu â’r ymchwiliad.

Aeth Mark O’Shea ymlaen i ddweud fod Andrew Saunders wedi “cynllunio ei drosedd am gyfnod o wythnosau.“Fe wnaeth e ladd dau berson ifanc arbennig yma yn greulon, allan o genfigen anaeddfed…”