”Gerald
”]Mae criw bad achub RNLI Y Rhyl wedi talu teyrnged i ŵr “hoffus a pharchus” fu’n gweithio gyda’r criw am fwy na 60 mlynedd.

Cafwyd hyd i Gerald Hughes, 86 oed, yn farw yn ei gartref ddydd Sul, Chwefror 26, lle’r oedd yn byw wrth ei hun.

Roedd yn bysgotwr brwd a chanddo wybodaeth eang am hanes yr harbwr a byddai’n cadw cofnodion a lluniau am orsaf bad achub Y Rhyl.

‘Ei golli’n fawr’

Roedd Gerald Hughes wedi ymwneud â’r badau achub ers ei fod yn fachgen ifanc ac wedi bod yn rhan o’r criw, yn rhwyfwr blaen ac yn ail wrth y llwy gyda’r RNLI.

A hyd yn oed wrth fynd yn hŷn, byddai’n dal i ymweld â’r orsaf, ac fe wnaeth y criw chwifio eu baneri’n isel ddydd Sul o barch iddo.

“Mae hyn yn sioc fawr i deulu bad achub Y Rhyl,” meddai Martin Jones o RNLI Y Rhyl gan gydnabod iddyn nhw golli cyn-aelod arall yn ddiweddar, sef Ray Coltman.

“Bydd Gerald yn cael ei golli’n fawr gan y gymuned forol leol,” ychwanegodd.