Mae dyn 21 oed o Borth Tywyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad difrifol ar ddyn mewn clwb nos yn Llanelli yn oriau man y bore ma.

Mae’r dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben am oddeutu 12.45yb.

Daeth dyn allan o gar cyn yr ymosodiad a tharo’r dyn cyn gyrru i ffwrdd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.