Matthew Scully Hicks
Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw mae dyn wedi gwadu llofruddio’r ferch blwydd a hanner oed y bu iddo ei mabwysiadu.

Mae Matthew Scully Hicks, 31, sy’n byw yng Nghernyw, wedi’i gyhuddo o ladd Elsie Scully Hicks ar 29 Mai 2016.

Fe ymddangosodd gerbron Cofiadur Caerdydd, y Barnwr Eleri Rees, ar 23 Rhagfyr, am wrandawiad cychwynnol.

Doedd dim modd ei enwi tan heddiw, wedi i gyfyngiadau gohebu gael eu codi yn dilyn cais gan y cyfryngau.

Mae Matthew Scully Hicks wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn ymddangos yn y llys eto ar 12 Mehefin. Mae disgwyl i’r achos bara pedair wythnos.