Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad â bricsen ar siop prydau parod yn Wrecsam.

Nos Iau (Chwefror 16), fe daflodd dyn fricsen at aelod o staff Krazy Pizza ar Stryd Poyser cyn iddo ddwyn arian o’r til a ffoi am Ffordd Rhiwabon.

Roedd y troseddwr 5’10” yn gwisgo trowsus rhedeg duon, sgidiau duon, menig gwlân, siaced ac roedd gorchudd dros ei wyneb.

Ail drosedd

Mae’r heddlu hefyd yn apelio am gymorth wrth geisio dod i hyd i unigolyn chwe throedfedd o daldra a geisiodd ddwyn til o siop sglodion Athena ar Ffordd Tywysog Siarl.

Chafodd neb ei niweidio yn ystod y naill drosedd na’r llall.

Mae’r heddlu yn galw ar aelodau’r cyhoedd a allai fod wedi ffilmio’r troseddau ar eu ffonau symudol neu ar gamerâu bordiau blaen eu ceir i alw 101.