Sally Holland (Gwefan y Comisiynydd)
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymuno gyda chomisiynwyr gweddill gwledydd Prydain i alw ar y Llywodraeth yn Llundain i adfer eu haddewid i helpu plant sydd ar ffo yn Ewrop.
Mae Sally Holland a’r tri chomisiynydd arall wedi anfon llythyr sy’n mynegi eu “pryder dwfn” fod Llywodraeth Prydain wedi rhoi’r gorau i gynllun i gefnogi hyd at 3,000 o blant bregus sydd wedi dianc ar eu pen eu hunain o wledydd yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
Fe ddaeth yn glir yr wythnos ddiwetha’ mai dim ond 350 o blant fydd yn cael eu helpu – yn groes i gynllun ‘Dubs’ i helpu 3,000. Mae hwnnw wedi ei enwi ar ôl Alf Dubs, yr arglwydd a wthiodd y cynllun trwy’r Senedd.
“R’yn ni’n annog y Llywodraeth i ymddwyn yn ddyngarol a chyfrifol a chynnal ymrwymiad positif i gynllun Dubs,” meddai’r comisiynwyr, “gyda strategaeth gynhwysfawr i ddiogelu ffoaduriaid o blant sydd ar eu pen eu hunain yn Ewrop.”
Y pwysau’n cynyddu
Mae’r llefarydd Llafur, Yvette Cooper, wedi cefnogi galwad y comisiynwyr gan ddweud bod y Llywodraeth yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd rhagor o blant yn mynd i ddwylo gangiau o smyglwyr.
Eisoes, fe fu arweinwyr crefyddol – gan gynnwys Archesgob Caergaint, Justin Welby, yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i newid eu meddwl.
Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud yn gyson eu bod yn ofni y byddai helpu plant sydd wedi cyrraedd Ewrop yn annog rhagor i chwilio am gymorth gan smyglwyr.
Maen nhw hefyd yn dadlau eu bod yn helpu plant o’r gwledydd peryglus eu hunain ac am helpu 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2019 a, neithiwr ar y BBC, roedd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew R T Davies yn mynnu bod gan y Llywodraeth record dda o helpu ffoaduriaid.