Mae’r apêl yn erbyn cynlluniau cwmni dŵr Hafren Trent i brynu cwmni Dŵr Dyffryn Dyfrdwy wedi dod i ben.

Ddydd Mercher, cafodd Severn Trent yr hawl gan yr Uchel Lys i brynu’r cwmni o Gymru am £84 miliwn.

Ond roedd cyfranddalwyr wedi bwriadu cyflwyno apêl.

Serch hynny, maen nhw bellach yn dweud eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i’r apêl er mwyn dod ag ansicrwydd i ben.