George North yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddwy flynedd yn ôl (llun: Joe Giddens/PA)
Fydd George North ddim yn chwarae yn erbyn Lloegr y prynhawn yma.

Mae’n dal i ddioddef o anaf i’w goes a ddioddefodd yn ystod y fuddugoliaeth 33-7 i Gymru yn erbyn yr Eidal yn Rhufain yr wythnos ddiwethaf.

Asgellwr Gleision Caerdydd, Alex Cuthbert, fydd yn cymryd ei le.

Er hynny, fe fydd Dan Biggar, er iddo yntau hefyd gael ei anafu’r wythnos ddiwethaf, yn dal i wisgo’r crys rhif 10 y prynhawn yma.

Doedd dim rhaid i Gymru gyhoeddi’r tîm terfynol tan y munudau diwethaf, ond roedd Alex Cuthbert wedi cael ei roi i fod ar gael ar fyr rybudd drwy’r wythnos.

Mae colli George North, sydd wedi sgorio 28 o geisiau mewn 66 o gemau, yn ergyd fawr i Gymru wrth geisio curo Lloegr am y tro cyntaf ers 2013.

Fe fydd y gêm yn cychwyn am 5.00.