Dr Dai Lloyd yw Cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud bod 16 oed yn rhy ifanc i gael twll mewn rhan bersonol o’r corff – barn sy’n groes i ddymuniad Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Pwyllgor Iechyd, dylai pobol ifanc fod yn 18 oed er mwyn cael twll o’r fath, yn hytrach na 16 oed, sef yr oedran sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Mae gan y pwyllgor “bryderon difrifol” am y goblygiadau meddygol o gael twll mewn rhannau personol o’r corff, a’r hyn “a allai fod yn digwydd” ym mywyd person ifanc sydd eisiau twll o’r fath.

Bil Iechyd y Cyhoedd

Roedd y pwyllgor yn trafod Bil Iechyd y Cyhoedd [Cymru] sydd wedi’i gyflwyno gan y Llywodraeth, sy’n ceisio mynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau sy’n effeithio ar iechyd pobol.

Os caiff ei basio, bydd y ddeddf yn gwahardd ysmygu ar dir ysgolion, meysydd chwarae ac ysbytai ac yn creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a nicotin.

Bydd hefyd yn newid y ffordd mae gwasanaethau fferyllol yn cael eu cynllunio yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir ystyried sut mae darparu toiledau i bobol leol.

Mae’r Pwyllgor hefyd eisiau i’r Bil atal unrhyw un a gafwyd yn euog o drosedd rywiol rhag cael trwydded i gynnig triniaethau arbennig fel rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff.

“Niwed arwyddocaol i gorff sy’n dal i ddatblygu”

“Mae’r Pwyllgor yn cytuno gyda bron pob un o’r darpariaethau ym Mil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ond rydym yn gwbl argyhoeddedig mai 18 oed ddylai fod yr oedran cydsynio ar gyfer twll mewn rhan bersonol o’r corff,” meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a dyn sy’n feddyg teulu.

“O ystyried faint o dystiolaeth sydd gan weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd ac iechyd amgylcheddol ynglŷn â’r niwed arwyddocaol y mae modd i driniaeth o’r fath ei achosi i gorff sy’n dal i ddatblygu, nid ydym wedi’n hargyhoeddi gan resymeg y Gweinidog dros ddewis 16 oed, ac felly rydym yn croesawu ei hymrwymiad i ystyried y mater hwn ymhellach.

“Rydym hefyd yn pryderu’n fawr nad yw’r rhestr o droseddau sy’n atal pobl rhag cael trwydded i gynnig triniaethau arbennig, gan gynnwys rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, yn cynnwys troseddau rhywiol ar hyn o bryd. Rydym yn credu y dylid diwygio’r Bil i atal y bobl hyn rhag cael trwyddedau.”

Argymhellion

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

–     Bod y Gweinidog yn mynd ati ar frys i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â gordewdra a materion eraill sydd angen blaenoriaeth o safbwynt iechyd y cyhoedd;

–     Bod y Gweinidog yn gwneud gwaith brys i ddeall faint o driniaethau addasu’r corff sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ac yn asesu beth yw lefel y risg i iechyd y cyhoedd.