Cymryd gwersi (Llun PA)
Mae cynorthwywyr dosbarth yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain yn gorfod cymryd mwy a mwy o wersi mewn ysgolion, yn ôl undeb.

Yn ôl arolwg barn …

  • Roedd mwy na thri chwarter cynorthwywyr yn dweud eu bod weithiau’n gorfod gwneud yr un gwaith yn union ag athrawon cyflenwi.
  • Roedd mwy na chwarter yn dweud eu bod yn gwneud yr un gwaith ag athrawon llawn.
  • Roedd llawer hefyd yn dweud eu bod yn gweithio mwy na’u horiau swyddogol, heb dâl ychwanegol am hynny.

Pwysau gwaith

Yn ôl undeb athrawon a darlithwyr, yr ATL, roedd y ffigurau’n dangos bod cynorthwywyr dosbarth yn teimlo’r pwysau oherwydd prinder arian ac adnoddau.

“Mae staff cynorthwyol lawn cymaint ag athrawon yn stryffaglu o dan bwysau gormod o waith lawn,” meddai llefarydd.

“Mae’r arolwg yma’n dangos, gwaetha’r modd, fod staff cynorthwyol yn teimlo’u bod yn cael eu gor-ddefnyddio a’u talu rhy ychydig.”

Roedd yr undeb wedi holi bron 1,000 o gynorthwywyr ar draws gwledydd Prydain.