Swyddogion Heddlu Gwent yn cynnal eu hymgyrch gwrthgyffuriau fwyaf erioed (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent yn dweud  eu bod wedi cynnal yr ymgyrch gwrthgyffuriau fwyaf erioed y bore ma.

Roedd 300 o swyddogion yr heddlu a thimau arbenigol wedi cyhoeddi 14 gwarant yn ardal Casnewydd am 5yb bore dydd Mawrth, 7 Chwefror.

Cafodd y gwarantau eu cyflwyno yn dilyn gwybodaeth gan y gymuned leol ynglŷn â chyffuriau Dosbarth A yn cael eu cyflenwi yn yr ardal.

Mae 24 o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad a chyflenwi cyffuriau caled ac mae ymholiadau’r heddlu’n parhau.

Roedd swyddogion arbenigol wedi defnyddio llifiau cadwyn a driliau er mwyn cael mynediad cyflym i’r eiddo.

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Marc Budden: “Dyma’r ymgyrch gyffuriau mwyaf ry’n ni wedi’i weld yng Ngwent. Ry’n ni wedi cael canlyniadau da hyd yn hyn y bore ma a hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu cefnogaeth.”