Mae ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am berygl cwympo wedi ei lansio heddiw gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Yn ystod ymgyrch Diogelwch Meddyginiaeth ac Atal Cwympo bydd 716 fferyllfa gymunedol dros Gymru yn cynnig cyngor i’r henoed ynglŷn â sut i osgoi cwympo.
Bydd yr ymgyrch, sydd wedi ei chefnogi gan 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cael ei gynnal am bedair wythnos.
Mae rhwng 230,000 a 460,000 o bobl oedrannus yn cwympo pob blwyddyn yng Nghymru ac mae’n costio £2.3 biliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Cwympo yw un o brif achosion anabledd a marwolaeth ymysg pobl oedrannus yng Nghymru.
Mae nifer o ffactorau yn gallu achosi i bobl gwympo gan gynnwys meddyginiaethau, golwg gwael, a diffyg ymarfer corff ymhlith y prif risgiau.
“Amlygu risg cwympo”
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch bod sefydliadau wedi dod ynghyd er mwyn amlygu risg cwympo a sut i’w hosgoi,” meddai Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rebecca Evans AC wrth lansio’r ymgyrch.
“Trwy ddefnyddio’r fferyllfeydd cymunedol fel man i dderbyn cyngor ynglŷn â sut i osgoi cwympo rydym yn gobeithio cynorthwyo pobol fel eu bod yn medru mwynhau henoed iachus.”
I’r rhai sydd â phryderon am gwympo, mae tair ffordd syml i leihau’r risg:
- Cadwch yn heini ac yn gryf,
- os ydych yn cwympo, dywedwch wrth rywun
- Byddwch yn ymwybodol o unrhyw beryglon all achosi cwymp yn y cartref neu du allan.