Mae ymchwiliad ar y gweill i wrthdrawiad angheuol yn Llandudno ddydd Gwener.
Cafodd dynes yn ei 60au ei lladd yn y digwyddiad pan adawodd car Renault Clio du y ffordd a mynd i mewn i gae.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Glanwydden rywbryd rhwng 4.45pm a 9.25pm nos Wener.
Cafodd ail berson anafiadau.