Prinder letys ar silff yn Tesco.
Mae archfarchnadoedd wedi penderfynu cyfyngu ar faint o letys maen nhw’n eu gwerthu am fod llai ohonyn nhw’n tyfu yn nwyrain Ewrop.

Bydd cyfyngiad ar faint o letys gall gwsmeriaid brynu ac mae rhai amrywiaethau fel yr iceberg, y letysen gos a’r sweet gem wedi cael eu tynnu oddi ar silffoedd rhithiol ar-lein yn gyfan gwbl mewn rhai siopau.

Mae cymysgedd o sychder ac yna llifogydd a rhew wedi effeithio ar gynhyrchwyr yn ne Sbaen, yn ogystal â’r Eidal, Gwlad Groeg a Thwrci.

Gall y broblem barhau hyd at fis Ebrill, yn ôl arbenigwyr, ac os felly fe allai pris y llysieuyn godi.

Mae prinder corbwmpenni hefyd ac mae cyflenwadau pupurau salad, brocoli a bresych yn brinnach na’r arfer.

Mae pobol wedi bod yn rhannu lluniau ar-lein o silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd gyda hashnodau #lettucecrisis a #courgettecrisis, wrth gwyno bod prisiau wedi bron â threblu dros yr wythnosau diwethaf.