Mae cyfnod prawf triniaeth arbenigol sy’n cael ei gynnal gan lawfeddygon yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei ymestyn am flwyddyn arall.

Dyma’r unig ysbyty ar draws gwledydd Prydain lle mae’r driniaeth  i lymphoedema yn cael ei gynnal fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.

Mae lymphoedema yn gyflwr cronig sy’n effeithio tua 200,000 o bobol ar draws y Deyrnas Unedig lle mae’r hylif lymff yn achosi i rannau o’r corff chwyddo gan achosi poen a gwneud symud yn anodd.

Yn ôl y gwasanaeth iechyd, mae’r cyflwr yn effeithio 20% o ferched sydd â chancr y fron, 50% o ddioddefwyr cancr fylfol a 30% o ddynion â chancr pidynnol.

‘Canlyniadau da’

Yn wreiddiol, dim ond y llawfeddyg Amar Ghattaura oedd yn medru cynnal y driniaeth yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ond bellach mae llawfeddyg arall wedi ymuno, sef Tom Bragg.

“Rydym wedi gwneud tua 48 triniaeth gyda chanlyniadau da hyd yn hyn,” meddai Amar Ghattaura.

“Fodd bynnag, mae yna alw i gynyddu’r niferoedd yn y tymor hir i wasanaethu’n well poblogaeth lymphoedema Cymru,” meddai.

Yn 2015, cafodd y driniaeth anastomosis gwythiennol lymffatig (LVA) ei gynnig ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £773,000 i hyd at 42 o gleifion i gael eu trin yn flynyddol fel rhan o ddadansoddiad ar y manteision.