Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn yn ardal Blaenau Ffestiniog heddiw.

Fe ddechreuodd y chwilio yn yr ardal fynyddig ger y B4391 brynhawn dydd Llun, Ionawr 30, ond bu’n rhaid gohirio am y tro o ganlyniad i amodau gwael y tywydd.

Cadarnhaodd y Ditectif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru nad yw’r dyn wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, ond eu bod yn credu mai Nicholas Davies ydyw, dyn sydd wedi bod ar goll o ardal Llan Ffestiniog.

Mae teulu’r dyn wedi cael eu hysbysu, ac nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.