Rhybudd melyn (Llun: Y Swyddfa Dywydd)
Mae rhybudd i deithwyr gymryd gofal ar y ffyrdd y bore ma oherwydd rhew.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn.

Mae disgwyl rhew drwy gydol y bore, ac mae rhybudd y gallai achosi problemau i yrwyr a cherddwyr.