Mae teulu dyn a fu farw yn y ddalfa yn Kirkcaldy yn Fife yn 2015 yn bwriadu dwyn achos yn erbyn Heddlu’r Alban.

Bu farw Sheku Bayoh, 31, ar ôl i’r heddlu ei arestio yn dilyn galwad frys ar Fai 3, 2015.

Fe fydd rhaglen ddogfen ar y BBC yn dilyn ei hanes nos Fawrth.

Yn y rhaglen, mae’r cyfreithiwr Aamer Anwar yn cadarnhau bwriad y teulu i ddwyn achos “er mwyn gofyn y cwestiynau ry’n ni eisiau eu gofyn”.

“Beth ddigwyddodd? A gafodd gormod o drais ei ddefnyddio? Dyna’r cwestiwn sylfaenol.

“Pam fod plismyn yn teimlo’r angen i drin Sheku fel y gwnaethon nhw y diwrnod hwnnw ac a arweiniodd hynny at ei farwolaeth?”

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cyflwyno adroddiad i brif swyddog cyfreithiol yr Alban, James Wolffe.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n cydweithredu yn ystod yr ymchwiliad.