Mae adroddiad cyntaf gan Aelodau’r Cynulliad ar Brexit yn dweud bod yna faterion “eang a chymhleth” i Gymru eu hystyried, yn enwedig o ran yr economi.

Mae’r adroddiad yn deillio o dystiolaeth gafodd ei chasglu gan wahanol sectorau ar draws Cymru.

Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol  yn nodi bod “sawl risg sylweddol i economi Cymru” os bydd Brexit yn golygu rhoi tollau ar nwyddau sy’n cael eu gwerthu i’r Undeb Ewropeaidd.

Oherwydd y risg hwn, mae’r pwyllgor yn galw am ganolbwyntio ar “drefniadau trosiannol” wrth i’r broses o adael yr undeb fynd rhagddo.

“Roedd y mwyafrif helaeth o’r dystiolaeth a ddaeth i law yn dangos bod sicrhau mynediad rhydd at y Farchnad Sengl, heb dariffau a rhwystrau di-dariff, yn hanfodol bwysig i economi Cymru,” meddai David Rees AC, Cadeirydd y pwyllgor.

“Bydd hyd yn oed cyfnod cymharol fyr o amser yn masnachu gyda rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn niweidio ein sector gweithgynhyrchu a’n sector amaethyddol.

“Gallai hyn fod yn drychinebus i economi Cymru. Rhaid i drefniadau trosiannol fod yn ystyriaeth bwysig yn y trafodaethau.”

Angen “rôl uniongyrchol” ar Gymru

Yn yr adroddiad, mae’r pwyllgor yn dweud hefyd ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru gael “rôl uniongyrchol” ym mhroses Brexit, yn enwedig yn ymwneud â phwerau datganoledig.

Byddai’n “briodol yn gyfansoddiadol” i’r Cynulliad chwarae rôl hefyd, yn ôl awduron yr adroddiad, a bod angen ystyried datblygiad datganoli yn y Deyrnas Unedig wrth ddechrau’r trafodaethau hanfodol.

“Os oedd unrhyw amheuon i ddechrau, mae’r dystiolaeth rydym wedi’i chasglu yn cadarnhau bod Brexit yn codi materion eang a chymhleth i Gymru,” ychwanegodd David Rees.

“Mae’n torri ar draws nifer o feysydd polisi, yn ogystal â chodi cwestiynau cyfansoddiadol sylfaenol ynghylch datganoli a’r ddeinameg pŵer rhwng Llywodraeth y DU, Senedd y DU a’r gweinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig.”