Mae grŵp sy’n gwrthwynebu codi ail atomfa niwclear ar Ynys Môn wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru o “ddawnsio i diwn y diwydiant niwclear.”
Mae digwyddiad cenedlaethol yn cael ei gynnal yn Birmingham fel rhan o broses ymgynghori i adweithydd ABWR Hitachi a allai gael ei ddatblygu yn Wylfa Newydd.
Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gadarnhau y byddai cyfarfod hefyd yn cael ei gynnal ar safle Magnox Ynys Môn ar Ionawr 30 gan ddweud fod y digwyddiad wedi’i anelu at “wahoddedigion” oedd wedi galw am gyfarfod lleol yn hytrach na theithio i Birmingham.
Ond yn ôl Dylan Morgan sy’n cydlynu’r grŵp Pobl Atal Wylfa B (PAWB), “mae hyn yn gwbl annerbyniol.”
“Ar fater mor bwysig â hyn, sarhad ar bobl Môn a gogledd Cymru yw cynnal digwyddiad cyhoeddus ond preifat i wahoddedigion yn unig. I rwbio halen yn y briw, bwriedir cynnal y digwyddiad mewn ystafell ar safle Wylfa Magnox sydd ddim yn lleoliad niwtral o bell ffordd ac yn cadarnhau’r canfyddiad bod Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn dawnsio i diwn y diwydiant niwclear,” meddai.
Cyfarfodydd ‘ar draws y gogledd’
Mae’r grŵp wedi ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, i ymyrryd â’r mater.
Dywed y llythyr, “galwn arnoch i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i aildrefnu cyfarfod cyhoeddus mewn lleoliad niwtral, cyfleus a chanolog ym Môn.”
Mae’n ychwanegu y dylai’r cyfarfod gael ei hysbysebu’n agored, ac y dylai mwy o gyfarfodydd gael eu cynnal ar draws y gogledd.
“Nid mater i Fôn yn unig yw dysgu mwy am broses asesu’r adweithydd ABWR o eiddo Hitachi. Pe byddai dau o’r adweithyddion enfawr hyn yn cael eu codi yn y Wylfa, a bod gollyngiad difrifol o ymbelydredd i’r amgylchedd yn dilyn damwain ddifrifol yno, byddai’n argyfwng ar Fôn a gogledd Cymru gyfan,” meddai Dylan Morgan yn y llythyr.
Tair sesiwn ar Ynys Môn
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “mae cyfle i arbenigwyr a phobol leyg gyfrannu barn mewn un o dair sesiwn ar Ynys Môn. Mae cyfarfodydd galw-heibio cyhoeddus wedi eu trefnu yn Neuadd y Dref Cemaes ac yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni’r wythnos nesaf.
“Yn ogystal â hyn, mae yna sesiwn yn cael ei chynnal i wahoddedigion arbenigol nos Lun i drafod manylion mwy technegol.
“Rydym yn hyderus bod hyn yn rhoi cyfle teg i bobol gyfrannu i’r ymgynghoriad – fe fyddwn ni’n gwerthfawrogi eu mewnbwn,” meddai’r llefarydd.
“Mae mewnbwn cyhoeddus yn rhan bwysig iawn o’r ymgynghoriad i ddyluniad yr adweithydd ac mae’r broses wedi ei chynllunio i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd.”
Mae’r cyfarfod yn Birmingham yn cael ei gynnal yfory, Ionawr 24.
Daeth cadarnhad heddiw fod y cwmni Horizon wedi cael caniatâd i brynu offer ar gyfer adweithydd newydd Wylfa Newydd ar Ynys Môn.