Bws Caerdydd (Llun: Gwefan Bws Caerdydd)
Mae bws wedi moelyd ar un o brif ffyrdd Caerdydd y bore ma.
Mae’r A4232 ger Croes Cwrlwys ynghau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn y digwyddiad toc cyn 9 o’r gloch.
Cafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty.
Mae cryn oedi yn yr ardal o hyd.