Jan Jedrzejewski Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae teulu dyn, fu farw ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol mewn stryd yng Nghasnewydd, wedi talu teyrnged iddo.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Keene yng Nghasnewydd nos Iau lle cafwyd hyd i Jan Jedrzejewski ar y pafin.
Cafodd Jan Jedrzejewski, 41 oed, a oedd yn dod o Gasnewydd, ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw’n ddiweddarach.
Mewn datganiad drwy Heddlu Gwent, dywedodd ei deulu ei fod yn “fab, brawd, brawd-yng-nghyfraith, ewythr a ffrind arbennig a gofalus.”
Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Jan Jedrzejewski.
Mae dyn 43 oed, dau ddyn 18 oed a bachgen 17 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Dywed Heddlu Gwent nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ond maen nhw’n apelio am dystion i gysylltu â nhw.