Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dynes ar amheuaeth o lofruddio, ar ôl i ddyn gael ei ddarganfod yn farw yn Hen Golwyn, Sir Conwy.

Cafodd yr heddlu eu galw i leoliad yn y dre’ am tua 8.30yh nos Iau, a chafodd corff y dyn ei ddarganfod gerllaw.

Erbyn hyn mae’r dyn wedi ei enwi – David James Kingsbury, 35 oed, o Fae Colwyn.

Mae’r ddynes sy’n cael ei chadw yn y ddalfa hefyd o’r ardal ac yn cael ei holi gan yr heddlu.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth, gyda thîm ymchwilio wedi’i sefydlu.