Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn ymchwilio i Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â’r modd yr oedd wedi delio ag agos o dreisio a llofruddiaeth yn 1976.

Bu farw’r ferch ysgol Janet Commins, 15, yn y Fflint, ar 7 Ionawr, 1976.

Ym mis Mehefin y flwyddyn honno cafodd dyn ei garcharu am 12 mlynedd am ei dynladdiad ond ym mis Medi’r llynedd, cafodd Stephen Anthony Hough ei gyhuddo o’i llofruddio a’i threisio.

Dywedodd yr IPCC bod Heddlu’r Gogledd wedi cyfeirio’r achos o’u gwirfodd ar ôl i ragor o wybodaeth ddod i law, gan arwain at adolygiad o’r amgylchiadau’n ymwneud a’r ymchwiliad gwreiddiol.

Mae’r IPCC yn ymchwilio i ddarganfod a oedd swyddogion Heddlu’r Gogledd, a oedd yn gysylltiedig â’r ymchwiliad gwreiddiol yn 1976, wedi gweithredu yn unol â’r rheolau oedd mewn lle ar y pryd mewn cysylltiad ag arestio a holi pobl sy’n cael eu hamau o drosedd, yn ogystal â’r modd yr oedd yr heddlu wedi delio a gwybodaeth newydd a ddaeth i law yn 2006.

Dywedodd llefarydd ar ran  Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu bod ymchwilwyr wedi casglu gwybodaeth berthnasol gan yr heddlu a’u bod hefyd wedi cwrdd â theulu Janet Commins er mwyn esbonio eu rôl.

Dywedodd comisiynydd yr IPCC yng Nghymru Jan Williams a bydd yr ymchwiliad yn un “cymhleth” ond ei bod yn “bwysig ein bod ni’n ymchwilio i’r achos yma yn annibynnol.”

Mae disgwyl i achos Stephen Hough, 57, gael ei gynnal rywbryd ym mis Chwefror.