David Daniel Hayes (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio am wybodaeth, wrth iddyn nhw chwilio am droseddwr rhyw posib o Ynys Môn.

Y gred ydi fod David Daniel Hayes, 37, sydd dan amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw ar blant, wedi ffoi i’r cyfandir.

Mae’n debygol bod David Hayes wedi gadael yr ardal yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn y llys ym mi Tachwedd 2015. Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ond methodd a dychwelyd i’r llys a cafodd warant ei arwyddo i’w arestio yn Rhagfyr 2016.

“Rydym yn gweithio â chydweithwyr yn yr Asiantaeth Drosedd Cenedlaethol ynghyd â chyrff deddforfodaethol eraill Prydeinig a tramor er mwyn ei leoli” meddai Ditectif Prif Arolygydd Andrew Williams.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n dal Mr Hayes a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’i leoliad gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.”