Mae dyn mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty wedi iddo gael ei daro gan gar yn Ninbych-y-pysgod ar Ddydd Calan.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad tua 12,25yb wedi i ddyn 22 oed gael ei daro gan gerbyd Vauxhall Astra lliw arian.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, cyn cael ei drosglwyddo’n ddiweddarach i’r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dal i ofyn i dystion gysylltu â nhw ar y rhif 101.