Teulu o Gymru oedd enillwyr mwya’r flwyddyn wrth i fwy nag erioed o bobol ddod yn filiwnyddion trwy’r Loteri.
Fe lwyddodd y teulu o Drefynwy i ennill £61 miliwn wrth i brif wobr yr EuroMillions gael ei chario o un wythnos i’r llall.
Er mai dyma’r flwyddyn gynta’ ers newidiadau dadleuol i’r brif gystadleuaeth loteri, roedd bron un miliwnydd y dydd wedi eu creu – 347 – gan guro record y llynedd.
Er fod cwyno am newid yn y rheolau ddiwedd 2015 i’w gwneud hi’n fwy anodd i ennill jacpot, fe ddaeth cystadleuaeth newydd, Raffl y Miliwnyddion, i greu miliwnyddion cyson.
Mae’r Loteri hefyd yn cyfrannu tua dwbl holl gyllideb Llywodraeth Cymru i achosion da.
‘Lwc o’i phlaid’
Ym mis Gorffennaf yr enillodd y teulu Davies, yn union wedi i’r fam, Sonia Davies, gael ei gwella o ganser.
A hithau wedi teithio i’r Unol Daleithiau i gael y driniaeth, fe ffoniodd un o’i merched i fynd i brynu tocyn o garej leol.
Fe ddywedodd Sonia Davies yn ddiweddarach ei bod hi’n teimlo bod lwc o’i phlaid.