Carchar Caerdydd
Fe ddaeth cadarnhad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod “digwyddiad yn ymwneud â charcharorion” wedi bod yng Ngharchar Caerdydd ar ddiwrnod Nadolig.
Ond fe gafodd ei “ddatrys yn gyflym”, meddai’r datganiad.
Mae’r Weinyddiaeth yn dweud i swyddogion ddelio â’r digwyddiad unigol ar un adain o’r adeilad, heb i neb o’r staff na charcharorion gael eu hanafu.
Roedd y cyfan drosodd mewn 40 munud, meddai’r datganiad wedyn.