Y llys yng Nghaernarfon lle bydd Jamie Warner yn ymddangos (Llun Gwasanaeth y Llysoedd)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ailadrodd eu rhybudd am drais yn y cartre’ ar ôl i ddyn ifanc gael ei gyhuddo o ymosod ar ei frawd yn oriau mân bore noswyl Nadolig.
Fe fydd Jamie Warner, 26 oed, o Maes Goronwy, Tynygongl, Ynys Môn, yn ymddangos o flaen sesiwn arbennig o Lys Ynadon Caernarfon ddydd Llun.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Nhynygongl toc wedi 3.30 fore dydd Sadwrn ar ôl adroddiadau o ddigwyddiad yno.
Yn yr ysbyty
Mae brawd hŷn Jamie Warner yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, am anafiadau i’w ben.
Roedd tynged Jamie Warner yn gorfod treulio’r Nadolig yn y celloedd yn rhybudd i bobol, meddai’r Ditectif Sarjiant Dafydd Curry.
“Gwrandewch ar rybudd Heddllu Gogledd Cymru,” meddai. “Fydd trais yn y cartref ddim yn cael ei oddef.”
Yr wythnos ddiwetha’ roedd yr heddlu wedi rhybuddio y bydden nhw’n cadw llygad am broblemau trais domestig, gan sicrhau bod camdrinwyr yn cadw at amodau cyfreithiol i gadw’n glir o’r dioddefwyr.