(O dudalen Facebook y digwyddiad)
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd mwy nag erioed o nofwyr yn mentro i’r tonnau ym Mhorthcawl.

Eleni yw’r 52fed tro i’r Nofiad Nadolig gael ei gynnal ac fe dorrwyd y record am nifer y nofwyr yn y digwyddiad llynedd.

Bob blwyddyn, fe fydd miloedd o bobol yn mynd i’r môr o un o’r traethau ynghanol y dre’ ac mae symiau anferth o arian wedi eu codi i elusennau lleol.

Elusen Latch

Eleni, fe fydd yr arian yn mynd at elusen Latch, sy’n cefnogi plant sy’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Plant Cymru.

Erbyn hyn, mae’r digwyddiad yn drefnus iawn gyda nwyddau arbennig yn cael eu cynhyrchu a defnydd eang o’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu nofwyr a chefnogaeth.

Eleni yw un o’r dyddiau cynesa’ erioed ar gyfer y nofiad – mae disgwyl i’r tymheredd yn yr ardal godi hyd at 14 gradd Celsius.